Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Mai 2019
Amser:
13.15 -
16.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5452
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Vikki Howells AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Cerys Furlong, Chwarae Teg Yr Athro Dylan Jones-Evans, Prifysgol De Cymru Robert Lloyd Griffiths, Sefydliad y Cyfarwyddwyr |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Nid oedd dirprwyon yn bresennol ar eu rhan.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymatebion i adroddiad y Pwyllgor ar Gyfrifon 2017-18.
3.2 Cytunwyd y byddai materion yn ymwneud â Chomisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn cael eu trafod fel rhan o'r gwaith o graffu ar Gyfrifon 2018-19 ac y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ofyn am eglurhad ar nifer o bwyntiau.
4.1 Cynhaliodd yr Aelodau sesiwn gwybodaeth gefndirol yng nghwmni Cerys Furlong o Chwarae Teg, Robert Lloyd Griffiths o Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Dylan Jones-Evans o Brifysgol De Cymru cyn yr ymchwiliad ffurfiol i gymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu drwy e-bost i'w chytuno ganddynt.
8.1 Trafododd yr Aelodau adroddiadau yr Archwilydd Cyffredinol ar reoli gwastraff, gan nodi'r ymatebion gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn yn nhymor yr hydref.